Comisiynwyd Bywydau Creadigol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fapio’r holl gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac adeiladu cronfa ddata gyfoes a all gyfeirio pobl at y cyfleoedd hyn.

[To read this page in English, please click here.]

Fe wnaethom gynnal ymchwil desg, cyhoeddi arolwg o gyfleoedd creadigol yn y sir, a chynnal tri digwyddiad sgwrsio creadigol, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â’r artist a’r hwylusydd lleol Tracy Breathnach.

Mae ein canfyddiadau yn datgelu sîn greadigol fywiog ac amrywiol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gydag ystod eang o ffurfiau celfyddydol a chyfleoedd ar gael i bobl o bob oed a chefndir. Fodd bynnag, mae bylchau sylweddol hefyd ac anghenion nas diwallwyd, yn enwedig o ran ymwybyddiaeth, hygyrchedd, a chymorth i unigolion a grwpiau creadigol.

Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser ac a rannodd eu harbenigedd i lywio’r adroddiad hwn, y rhai a gwblhaodd ac a rannodd yr arolwg, ac a fynychodd y digwyddiadau sgwrsio agored. 

Gallwch lawrlwytho ein hadroddiad llawn Mapio gweithgareddau creadigol yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr yma, sy'n cynnwys rhestr a map o gyfleoedd creadigol.